Paid Ymddiheuro

著者: Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes
  • サマリー

  • Sawl gwaith ydych chi ‘di deud “sori i fod yn boen” pan mai’n dod at eich hiechyd? Yn ol ymchwil, mae menywod yn llai tebygol o ymweld a’r meddyg teulu ac yn derbyn llai o fonitro. Mae’n rhaid i hyn newid. Yn y podlediad yma, da ni am fod yn trafod amrywiaeth o agweddau ar iechyd menywod o ddulliau atal cenhedlu i iechyd meddwl, o’r mislif i’r menopos. Elin a Celyn yma. 'Da ni’n ddwy fyfyriwr meddygol ym mhrifysgol Caerdydd sy’n angerddol dros leihau’r stigma o amgylch iechyd menywod. Dyma fan diogel i rannu profiadau a dysgu gyda'n gilydd. Yr unig reol: Paid Ymddiheuro
    Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes
    続きを読む 一部表示

あらすじ・解説

Sawl gwaith ydych chi ‘di deud “sori i fod yn boen” pan mai’n dod at eich hiechyd? Yn ol ymchwil, mae menywod yn llai tebygol o ymweld a’r meddyg teulu ac yn derbyn llai o fonitro. Mae’n rhaid i hyn newid. Yn y podlediad yma, da ni am fod yn trafod amrywiaeth o agweddau ar iechyd menywod o ddulliau atal cenhedlu i iechyd meddwl, o’r mislif i’r menopos. Elin a Celyn yma. 'Da ni’n ddwy fyfyriwr meddygol ym mhrifysgol Caerdydd sy’n angerddol dros leihau’r stigma o amgylch iechyd menywod. Dyma fan diogel i rannu profiadau a dysgu gyda'n gilydd. Yr unig reol: Paid Ymddiheuro
Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes
エピソード
  • 2.6 Dy Ddewis Di: Profiadau ar y Coil
    2024/09/08

    Wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf yr ail gyfres.

    Fel cyfres 1, bydd hon yn episod gyda Elin a Celyn yn unig.

    Dewch i wrando ar eu profiadau nhw wedi dewis y coil fel dull atal cenhedlu. Un ar y copper coil a'r llall ar y Mirena IUS- dewch i glywed y pros a'r cons a phob dim yn y canol.

    Diolch i chi unwaith eto am eich holl gefnogaeth!

    Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

    Noddir y podlediad hon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


    Lincs

    https://www.nhs.uk/contraception/methods-of-contraception/iud-coil/what-is-it/#:~:text=An%20IUD%20(intrauterine%20device)%2C,is%20not%20suitable%20for%20everyone.

    https://www.nhs.uk/contraception/methods-of-contraception/ius-hormonal-coil/

    https://www.letstalkaboutit.nhs.uk/contraception/fit-forget-contraception/coils-intrauterine-contraception/


    続きを読む 一部表示
    54 分
  • 2.5 Brwydro'r Emosiynau: Mwy na PMS yw PMDD
    2024/09/01

    Mae PMDD yn bwnc mae Celyn ac Elin wedi bod yn awyddus iawn i’w drafod ar Paid Ymddiheuro.

    Mae Premenstrual Dysphoric Disorder yn gyflwr a gafodd ei ychwanegu at y Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM) yn 2013 ac yn cael ei ddiffinio yno fel cyflwr iselder sy’n achosi symptomau corfforol ac emosiynol difrifol rhwng ofwliad a’r mislif.

    Heddiw mae’r merched yn cael cwmni Alys Golding i drafod ei brwydr hi i dderbyn diagnosis o PMDD. Bydd yr episod yma yn archwilio symptomau PMDD, cymharu'r rhain â PMS, parhau i ymladd am ddiagnosis a phwysigrwydd cael cyfuniad o ymyrraeth feddygol a thechnegau holistig fel triniaeth.

    Diolchiadau:

    Diolch i Becci Smart @disorderedbrain_

    Housemate Celyn – Emily

    Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch, os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

    Noddir y podlediad yma gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Lincs:

    https://iapmd.org/

    https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/premenstrual-dysphoric-disorder-pmdd/about-pmdd/#:~:text=Premenstrual%20dysphoric%20disorder%20(PMDD)%20is,phase%20of%20your%20menstrual%20cycle.

    続きを読む 一部表示
    41 分
  • 2.4 Cydnabod y Bwlch: Anafiadau ACL mewn Merched
    2024/08/25

    Cydnabod y Bwlch: Anafiadau ACL mewn Merched

    Mae Elin a Celyn yn ffodus iawn i gael cwmni nid un ond dwy westai ar y podlediad heddiw: Dr Awen Iorwerth a Molly Cana.

    Eleni, rydym wedi gweld nifer o straeon newyddion am anafiadau ACL yn y byd pêl-droed, yn enwedig mewn menywod. Oes rheswm penodol dros hyn? Oes risg uwch i ferched ynghlwm â’r anaf yma?

    Bydd Molly ac Awen yn trafod hyn a llawer mwy, gan gynnwys amodau chwarae i ferched, yr esgidiau maent yn eu gwisgo a’r amser aros am driniaeth.

    Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch, os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

    Noddir y podlediad yma gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    続きを読む 一部表示
    42 分
activate_buybox_copy_target_t1

Paid Ymddiheuroに寄せられたリスナーの声

カスタマーレビュー:以下のタブを選択することで、他のサイトのレビューをご覧になれます。