エピソード

  • Teimladau’r Tymor: Crynhoi Cyfres Un | 10
    2024/12/18
    Cyfle i grisialu rhai o’r teimladau sy’n gallu codi ar ddiwedd blwyddyn, yng nghanol tymor hynod o lawn. Ond - os ydych chi’n gwrando ar y bennod ar adeg wahanol o’r flwyddyn - na phoener! Mae digon o bethau yma i fyfyrio drostynt wrth i Hanna ein tywys drwy rai o brif bwyntiau cyfres gyntaf podlediad GBYH. Mwynhewch!
    続きを読む 一部表示
    38 分
  • Gwneud lle am emosiynau | 9
    2024/12/04
    Mewn cyfnod sy'n gallu teimlo'n orlawn a ble mae amryw o emosiynau yn dod i'r wyneb, dyma gyfle i ddechrau dysgu sut y gallwn greu lle ar eu cyfer nhw a beth yw'r buddion o wneud hynny. Cawn gyfle hefyd i ddysgu ychydig bach mwy am y critic mewnol. Croeso i GBYH!
    続きを読む 一部表示
    17 分
  • 'Gad iddo fynd' versus 'Gad iddo fod' | 8
    2024/11/20
    Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y gwahaniaeth rhwng 'Gad iddo fynd' a 'Gad iddo fod' yng ngoleuni cân enwog y Beatles 'Let it be'. Sut mae ail-fframio dywediad rydym yn ei glywed yn gyson er mwyn Gwneud Bywyd Yn Haws?
    続きを読む 一部表示
    14 分
  • Beth yw Cwrs GBYH? | 7
    2024/11/06
    Cwrs GBYH - Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws. 12 modiwl sydd â'r bwriad o wneud yr union beth hynny. Yn y bennod hon, ceir cyfle i gael blas ar gynnwys y cwrs - mae cofrestru'n cau 10/11/24! Gwrandewch tan y diwedd am wahoddiad i ddysgu mwy cyn ymrwymo.
    続きを読む 一部表示
    27 分
  • Ymrwymo i'ch dewisiadau | 6
    2024/10/23
    Yn y bennod hon, cyfle am ychydig bach o wybodaeth tameidiol - 'bite-size' - ar 'ddechrau cyn eich bod yn barod' (start before you're ready) ac am bwysigrwydd anrhydeddu ymrwymiadau 'dych chi'n gwneud i chi eich hun.
    続きを読む 一部表示
    14 分
  • Tymor y Bwa a'r Saeth: Pennod *bonws* | 5
    2024/10/16
    Sut mae'r cyfnodau o gymryd 'cam nôl', o ddweud 'na', o newid cyfeiriad neu o gymryd saib yn gallu cyfrannu at ein datblygiad? A sut gallwn ddefnyddio'r cyfnod i'n helpu ni baratoi at bennod newydd? Yn y bennod *bonws* hon, mae Hanna yn trafod y syniad o dymor y 'bwa a'r saeth' a sut mae ystyried y tymor fel hyn yn gallu helpu.
    続きを読む 一部表示
    19 分
  • Beth yw 'self-compassion'? | 4
    2024/10/09
    Beth yn union yw ystyr 'compassion'? Beth yw ystyr 'self-compassion'? Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y syniad o 'hyfforddiant cryfder mewnol' (inner strength training) ac yn edrych ar bwysigrwydd y derbyn a'r gweithredu. Sut mae'r elfennau hyn yn gallu Gwneud Bywyd yn Haws? Gwrandewch i ddysgu mwy!
    続きを読む 一部表示
    32 分
  • Gobaith, Gweledigaeth a Gôl | 3
    2024/09/25
    Yn y bennod hon mae Hanna'n rhannu rhai strategaethau y gellid eu trio wrth ddechrau dewis llwybrau newydd. Trafodir hefyd y gwahaniaeth rhwng cael gweledigaeth a chael gôl, a rôl 'gobaith' ar hyd y daith.
    続きを読む 一部表示
    27 分