エピソード

  • 38 - Goss y maes, Karens a Bethans a Steddfod blŵs
    2025/08/14

    Wel, mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd a phasio bellach a dydi Meilir heb gael cyfle i ddadbacio ei ddillad cyn bod rhaid dadbacio holl ddigwyddiadau'r wythnos o amgylch y maes a rownd y byd. Pwy oedd y snogio wrth y portaloos? FAINT oedd pris taten drwy'i chroen? Pwy oedd yn Maes B? Dewch i mewn i wrando!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 37 分
  • 37 - Eisteddfod! Yn yr Eisteddfod, ieee!
    2025/07/31

    Wrth i Mari a Meilir baratoi i ymweld ag Eisteddfod Wrecsam mewn ychydig ddyddiau, mae 'na lwyth o geisiadau i drafod y ffordd orau i fwynhau a goroesi wythnos yn yr Ŵyl. Mewn â chi i'r siop i ymuno yn y sgwrs, gloi!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 31 分
  • 36 - Portaloos, cysgu efo ffrind i ex a delwedd cyrff
    2025/07/17

    Mae hi'n un hir ond mae hi'n un dda... Er nad oes gan Mari a Meilir lawer i'w drafod am eu hwythnosau eu hunain, mae ganddyn nhw DDIGON i'w ddweud wrth ymateb i'r llu o geisiadau a'r cyfaddefiadau sydd wedi cyrraedd y blwch yr wythnos hon. Gwrandewch a gadwch i ni wybod beth yw eich barn chi hefyd!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 44 分
  • 35 - Swistir, Jurassic World a papur toilet
    2025/07/10

    "Ry ni yma o hyyyyd!" Mae Cymru nol yn yr Ewros a mae Mari a Meilir nol yn y siop! Gobeithio i chi fwynhau'r wythnos o hoe gawsom ni. Fe lenwoch chi ein blwch ni, yn union fel wnaethom ni ofyn, ac mae yna dipyn o geisiadau i'w trafod felly dewch i mewn i'r siop ar frys.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 28 分
  • 34 - Alban Hefin, Pride Cymru a llond blwch o geisiadau!
    2025/06/26

    Wel, da chi di bod yn brysur efo'ch ceisiadau yr wythnos hon. Ond cyn i Mari a Meilir fynd i dyrchu, mae 'na ddigon o amser i drafod digwyddiadau Pride Cymru, hirddydd haf, bingo Llanuwchllyn a dillad Beyoncé! Mewn â chi, mae'r siop ar agor.

    続きを読む 一部表示
    1 時間 36 分
  • 33 - Pisco sours, Cotswolds a'r 'closet'
    2025/06/19

    Mae Mari yn ôl o'i phenwythnos yn y Cotswolds ac mae 'fake tan' Meilir yn datblygu yn eithriadol o gyflym ac oren. Ddim yn gwneud synnwyr? Wel, pwyswch play a gwrandewch te. Mae'r siop ar agor!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 15 分
  • 32 - Y Wicked Trailer, y Tony's a canon Amwythig
    2025/06/12

    Yn dilyn newid yn amserlen Mari a Meilir, cafodd y bennod hon ei recordio ben bore...felly does wybod sut siap fydd ar y ddau na'r siop. O'r Tony's i Wicked i Ar Led, mae yna ddigon i ddeffro'r ddau felly i mewn â chi i'r Siop!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 16 分
  • 31 - Carafanio, Rhwydwaith Menywod Cymru a Patti LuPone
    2025/06/05

    Mae Meilir wedi ymddangos o'r garafan o'r diwedd ac mae Mari yn ôl o Eisteddfod yr Urdd ac mae yna lond bag freebies a llyfr lloffion o straeon i'w rhannu. Felly dewch yn eich blaen, i mewn i'r siop â chi!

    続きを読む 一部表示
    1 時間 24 分