『Byw ar dy ora'』のカバーアート

Byw ar dy ora'

Byw ar dy ora'

著者: Nerth dy Ben
無料で聴く

このコンテンツについて

Heloooo â chroeso i Byw ar dy Ora’ - podlediad gan Nerth dy Ben sy’n gofyn y cwestiwn: be ydi byw ar dy ora'? Sut mae rhywun yn byw ar ei orau? A pam ei fod o’n bwysig gwneud hynny (os ydio o gwbl)?

'Sgwn i be ddaw yn atebion wrth i'n sylfaenydd Alaw, gael sgyrsiau gonest, hwyliog ac annisgwyl efo cymeriadau lliwgar o bob cwr o Gymru.

Ma' Byw ar dy Ora' yn gymuned i addysgu, ysbrydoli, ac uno - ermwyn i ni gyd gael y cyfle i fyw'r bywyd gorau posib yn defnyddio nerth ein pen!Nerth dy Ben
社会科学
エピソード
  • Pennod 3 – Sgwrs efo Mark Williams
    2025/06/04
    Mark Williams, neu Mark LIMB-Art fel mae rhan fwyaf o bobl yn ei ’nabod o, ydy’r unigolyn ysbrydoliedig sydd, ynghyd â’i wraig Rachel, tu ôl i’r cwmi LIMB-Art. Dylunio gorchuddion coes prosthetig lliwgar a llawn cymeriad mae’r cwmni, ac mae ysbryd positif, cefnogol ac uchelgeisiol Mark, sydd hefyd yn gyn-nofiwr paralympaidd, yn disgleirio trwy’r gwaith – a thrwy’r bennod arbennig hon hefyd. Dyma sgwrs i ysbrydoli, i ail-feddwl sut mae rhywun yn edrych ar fywyd ac i gofio – mai bod yn glên ydi un o'r pethau pwysicaf yn y byd.
    続きを読む 一部表示
    45 分
  • Pennod 2 - Sgwrs efo Rhys Yaxley
    2025/05/21
    Mae Rhys Yaxley o ardal Glyn Dyfrdwy yn berson sy’n hoffi cerddoriaeth, cymdeithasu ac antura. Wrth ei waith mae’n seicotherapydd sy’n treulio rhan fwyaf o’i amser yn gweithio efo cartrefi plant. Yn y bennod hwyliog hon, bydd Rhys ac Alaw yn sgwrsio am bethau fel pŵer cerddoriaeth, pwysigrwydd gwthio ein hunain i wneud pethau anghyfforddus, be ydi rhyddid a pam y bysa Rhys y person gwaetha’ i’w herwgipio…

    Ewch i'n gwefan www.nerthdyben.cymru i ddarganfod mwy am ein gwaith
    続きを読む 一部表示
    35 分
  • Pennod 1: Sgwrs efo Elin Crowley
    2025/05/07
    Aritst a Mam i dri o blant ydi Elin Crowley o Fachynlleth.

    Yn y bennod hon bydd Alaw ac Elin yn sgwrsio am bob math o bethau yn cynnwys: trystio dy reddf a gwybod be sy’n dda i chdi, y broblem efo’r diwydiant iechyd a lles ac ymgyrch i ddod a troi fyny ar stepan drws pobl yn ôl!

    www.nerthdyben.cymru
    続きを読む 一部表示
    37 分

Byw ar dy ora'に寄せられたリスナーの声

カスタマーレビュー:以下のタブを選択することで、他のサイトのレビューをご覧になれます。